Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 3A(7)(b) o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991, i’w cymeradwyo drwy benderfyniad Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU drafft
2011 Rhif (Cy. )
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriant awtomatig.
Mae rheoliad 2 yn gwahardd gwerthu tybaco o beiriant awtomatig. Gwneir y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy’n rheoli’r fangre honno, yn atebol am doriad o’r gwaharddiad hwn.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o’r Rheoliadau hyn fel safon dechnegol yn unol â Chyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a’r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.1998, t.37) sy’n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau a rheoliadau technegol, fel y’i diwygiwyd.
Paratowyd asesiad effaith rheoleiddiol llawn o effaith yr offeryn hwn ar gostau busnes, a rhoddwyd ef yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono o’r Gangen Ymddygiadau Risg i Iechyd, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.
OFFERYNNAU STATUDOL CYMRU drafft
2011 Rhif (Cy. )
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Rheoliadau Amddiffyn rhag Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011
Gwnaed ***
Yn dod i rym 1 Chwefror 2012
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 3A o Ddeddf Plant a Phobl Ifanc (Amddiffyn rhag Tybaco) 1991([1]).
Mae drafft o’r Rheoliadau hyn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad ganddo yn unol ag adran 3A(7)(b) o’r Ddeddf honno.
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.—(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Amddiffyn rhag
Tybaco (Gwerthiannau o Beiriannau Gwerthu) (Cymru) 2011 a deuant i
rym ar 1 Chwefror 2012.
(2) Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Gwahardd gwerthu tybaco o beiriannau gwerthu
2.—(1)(1) Gwaherddir gwerthu tybaco o beiriant
awtomatig.
(2) Bydd y person sydd â rheolaeth ar y fangre y lleolir y peiriant awtomatig ynddi, neu sy’n ymwneud â rheoli’r fangre honno, yn atebol am doriad o baragraff (1).
(3) Yn y rheoliad hwn, mae “mangre” (“premises”) yn cynnwys unrhyw le ac unrhyw gerbyd, llong, hofrenfad, stondin neu adeiledd symudol.
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
Dyddiad